Cymorth Ariannol

Mae Cyngor Cymuned Trawsfynydd yn cydnabod ac yn cefnogi’r cyfraniad gwerthfawr a wneir gan lawer o grwpiau gwirfoddol a sefydliadau ym meysydd chwaraeon, celf, diwylliant, gofal cymdeithasol, gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc, yr henoed a phobl ag anableddau a llawer o rai eraill sy’n cyfrannu at les y gymuned .

Y bwriad wrth ddyrannu cymorth ariannol yw gwella ystod o wasanaethau a gweithgareddau lleol . Bydd y Cyngor yn ystyried rhoi cymorth ariannol i sefydliadau cymunedol, nad ydynt am elw ac y mae eu haelodaeth a maes gweithgaredd o fudd i drigolion Trawsfynydd.

Cyllideb gyfyngedig sydd ar gael ar gyfer rhoddion ac fe fydd y Cyngor yn ystyried ceisiadau ym mis Mawrth ym mhob blwyddyn yn unig.

Bydd angen copi o’ch cyfrifon diweddaraf (gan gynnwys manylion unrhyw gyfrif wrth gefn).

Pe byddech yn llwyddiannus, bydd disgwyl i chi roi gwybod i’ch aelodau am gefnogaeth y Cyngor, a bydd disgwyl adroddiad ar sut y bu i chi ddefnyddio’r arian.

Defnyddiwch y ffurflen atodedig i gyflwyno eich cais, os gwelwch yn dda.